Cynorthwyydd Cynllunio / Ymchwil (Polisi)
Penrhyndeudraeth
Cynorthwyydd Cynllunio / Ymchwil (Polisi)
Penrhyndeudraeth, Cymru
Amdanom Ni
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (ENPA) yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Yn ymestyn dros 823 milltir sgwâr, mae’r parc yn gartref i fynydd uchaf Cymru, llyn naturiol mwyaf Cymru, a thros 26,000 o bobl.
Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwyydd Cynllunio/Ymchwil i ymuno â ni yn llawn amser, parhaol.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Gweler y swydd disgrifiad am yr union lefel o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon.
Y Manteision
- Cyflog o £28,163 - £31,067 y flwyddyn
- Rhaglen cymorth i weithwyr a mynediad at swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cyllid ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus: Fel rhan o'r rôl hon, gallwn gefnogi eich twf trwy ariannu amrywiol gyfleoedd datblygiad proffesiynol, gan gynnwys gradd meistr sy'n berthnasol i Gynllunio
- Dilyniant gyrfa hyblyg: Er ein bod yn annog datblygiad gyrfa, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar unrhyw ymgeisydd i ddilyn y llwybr hwn. Mae'r budd hwn wedi'i gynllunio i gefnogi a gwella'ch sgiliau a'ch gwybodaeth, beth bynnag fo'ch dyheadau gyrfa
Mae’r rôl amrywiol hon yn cynnig cyfle gwych i raddedig sy’n siarad Cymraeg gyfrannu at stiwardiaeth hirdymor un o dirweddau mwyaf prydferth a phwysig yn ecolegol y DU.
Y Rôl
Fel Cynorthwyydd Cynllunio/Ymchwil, byddwch yn cefnogi datblygu, gweithredu a monitro polisi cynllunio sy’n gwarchod ac yn gwella rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.
Gan weithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Cynllunio (Polisi), byddwch yn gwneud gwaith ymchwil manwl, dadansoddi data a mapio GIS i gyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol.
Byddwch hefyd yn ymwneud â chymorth prosiect, gan helpu i gyflwyno mentrau cynllunio allweddol sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd, cynhwysiant cymdeithasol, a gwydnwch gwledig ar draws Eryri.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Crynhoi ac asesu ystod o setiau data amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd
- Darparu cefnogaeth GIS a LANDMAP, gyda hyfforddiant yn cael ei ddarparu
- Cynorthwyo gyda monitro tai ac amgylcheddol, ac adrodd statudol
- Cefnogi prosesu ymholiadau chwiliad tir a ffurflenni data cynllunio
- Cyfrannu at gyfathrebu mewnol ac allanol, gan gynnwys ymholiadau cyhoeddus
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried yn Gynorthwyydd Cynllunio / Ymchwil, bydd angen:
- Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg
- Y gallu i wneud gwaith ymchwil gwreiddiol a dadansoddi data
- Gradd (neu gyfwerth) mewn cynllunio, daearyddiaeth neu bwnc cysylltiedig
- Trwydded yrru lawn, ddilys
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 6 Mai 2025.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynlluniwr Cefn Gwlad Graddedig, Cynorthwyydd Cynllunio, Swyddog Cynllunio Graddedig, Swyddog Cynllunio Iau, Swyddog Cynllunio Cadwraeth, Swyddog Cynllunio Ardal, Swyddog Gwasanaethau Cynllunio, neu Gynorthwyydd Ymchwil Cadwraeth.
Felly, os ydych chi'n barod i ddechrau eich gyrfa fel Cynorthwyydd Cynllunio / Ymchwil, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.