Working with Us

Current Vacancies

Wardeiniaid

Goruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol - Llyn Tegid

Arall

Job Ref
APCE 2023 019
Location
Arall

Goruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol (FTC)
Llyn Tegid, Gwynedd

Amdanom ni

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru, sef Llyn Tegid.

Rydym nawr yn chwilio am Oruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol i ymuno â ni ar sail amser llawn ar gyfer contract tymor penodol hyd at 30 Medi 2023.

Y Manteision

- Cyflog o £21,575 - £22,777 y flwyddyn (pro rata)
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau o 24 diwrnod (pro rata)
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol

Y Rôl

Fel Goruchwylydd Blaendraeth Tymhorol, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod adeilad blaendraeth Llyn Tegid, y maes parcio a’r ardal gyfagos yn rhedeg yn esmwyth.

Yn bedair milltir o hyd a thri chwarter milltir o led, Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru. Wedi’i reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fel adnodd hamdden, rydym yn gwarchod y llyn a’i fioamrywiaeth unigryw. Daw'r safle yn hynod o brysur yn ystod anterth y prif dymor gwyliau, ac mae angen ei reoli'n effeithiol i osgoi tagfeydd, problemau posibl rhwng ymwelwyr ac amhariad ar wasanaethau.

Gan hyrwyddo defnydd cyfrifol o Lyn Tegid a’r ardal leol, byddwch yn darparu cyngor a chymorth diogelwch a chyfeiriadedd sylfaenol i’r cyhoedd ac ymwelwyr, gan sicrhau’r safonau uchaf o ofal cwsmer.

Byddwch yn cynorthwyo gyda rheoli’r safle o ddydd i ddydd, gan oruchwylio’r holl weithgareddau parcio ceir gan gynnwys rheoli traffig, trin arian parod, sicrhau bod peiriannau talu ac arddangos yn gweithredu’n gywir a gorfodi taliadau parcio ceir.


Yn ogystal, byddwch yn:

- Delio ag ymholiadau a chwynion
- Cymryd rhan mewn adolygiadau cwsmeriaid cyfnodol
- Sicrhau bod y safle yn cael ei gadw i safon uchel o lanweithdra
- Hyrwyddo cadw at y Cod Cefn Gwlad a chodau ymddygiad lleol

Amdanoch chi

I gael eich ystyried yn Oruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol, bydd angen:

- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o reoli pobl a/neu ofal cwsmeriaid
- Profiad o ymdrin ag arian, yn gyfrifol ac yn gywir
- Ymwybyddiaeth o faterion diogelwch dwr
- Sgiliau cyfathrebu da
- Gwybodaeth leol dda
- Agwedd gallu-gwneud, datrys problemau gyda pharodrwydd i ymwneud â rheolaeth ymarferol y safle
- Trwydded yrru lawn, ddilys

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Oruchwyliwr Tymhorol, Goruchwylydd Canolfan Ymwelwyr, Arweinydd Tîm Canolfan Hamdden, Goruchwylydd Canolfan Weithgareddau, neu Arweinydd Tîm Chwaraeon Dwr.

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 12fed Mehefin 2023.

Os ydych chi am ymuno â ni yn y rôl wobrwyol hon fel Goruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Function
Wardeinio
Status
Amser llawn
Type
Contract Cyfnod Penodol
Hours
37 awr yr wythnos

Share this vacancy

Job Alerts

Can’t see the role you want? Register your details with us to be notified when we’re hiring!

Contact Us

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6LF (Google Maps Location - LL48 6HB)

01766 770274


Connect with:

© Copyright Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 2023
Powered by: Webrecruit